Enable JavaScript for full functionality
Rhywogaethau CoRE
Catalog o Rywogaethau Prin ac Mewn Perygl ym Mhrydain ym meddiant Casgliadau Amgueddfa Cymru
Mae’r wefan hon yn gatalog y gellir ei chwilio o sbesimenau Prydeinig o rywogaethau sydd â’u cadwraeth mewn perygl sydd i’w canfod yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru. Mae hyn yn cynnwys anifeiliaid, planhigion a ffyngau.
Rhoddwyd blaenoriaeth yn y lle cyntaf i rywogaethau sy’n cael eu cwmpasu gan Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU (UKBAP) a Deddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006: Mae adran 42 yn rhestru’r Rhywogaethau Blaenoriaethol er mwyn Cadwraeth Amrywiaeth Biolegol yng Nghymru (Adran 42). Caiff y bas data ei ehangu yn y dyfodol i gynnwys data ar rywogaethau prin nad sydd ar unrhyw un o’r rhestrau deddfwriaethol ar hyn o bryd.
Cyfyngiadau’r Data
Casglwyd nifer o’r sbesimenau cyn daeth yn amlwg bod angen casglu data manwl. Gall manylion lleoliadol fod yn brin, yn wallus a heb gyfeirnodau Grid OS neu gyfeirnodau cyffelyb yn aml. Cynghorir defnyddwyr i beidio ychwanegu cyfeirnodau sy’n ceisio nodi lleoliadau o fewn blychau 1-10km.
Mae mwyafrif yr adnabyddiaethau wedi’u cadarnhau ond gall bod amheuaeth o hyd mewn rhai achosion, yn enwedig o fewn cymhlygau rhywogaethau. Os cwestiynir cywirdeb adnabyddiaeth gan ddefnyddiwr byddwn yn croesawu ailasesiad gan arbenigwr cymwys. Yn anffodus, nid oes gennym arbenigedd tacsonomig digonol i gwmpasu pob grŵp.
Gweld Data
Mae manylion data llawn y rhywogaethau yma wedi eu darparu i Ganolfannau Cofnodi Lleol yng Nghymru ond gyda rhai rhywogaethau arbennig o sensitif mae’n bosib nad ydym wedi rhyddhau gwybodaeth lawn am eu lleoliad. Gellir gwneud ymholiadau dilys i weld manylion o’r fath drwy’r Canolfannau Cofnodi Lleol neu drwy ysgrifennu at Amgueddfa Cymru yn ar y cyfeiriad a roddir ar y dudalen manylion cyswllt.
Sbesimenau Taleb
Casglwyd mwyafrif y rhywogaethau ddegawdau cyn cyflwyno deddfau cadwraeth a derbyniwyd caffaeliadau diweddarach wedi i’r awdurdod i’w casglu gael ei brofi neu ei ganiatáu yn unig. Rydym yn annog deponiad sbesimenau taleb sydd wedi’u casglu’n gyfreithlon drwy arolygon neu brojectau ymchwil a gomisiynwyd neu a ganiatawyd gan asiantaethau perthnasol. Gall ymchwilwyr wneud apwyntiad i ymweld a defnyddio’r casgliadau yma yn Amgueddfa Cymru (gweler y dudalen gyswllt am fanylion).
Datblygiadau Pellach
Nid yw’r amryw restrau o rywogaethau a gaiff eu gwarchod yn cynnwys pob rhywogaeth brin a welir yn y DU a’n bwriad yw ymestyn cwmpas y bas data i gynnwys ein casgliad o rywogaethau prin.
Caiff taflenni gwybodaeth ychwanegol yn crynhoi statws, adnabyddiaeth ac ecoleg rhywogaethau penodol eu hychwanegu fel y mae adnoddau yn caniatáu hynny. Caiff rhywogaethau lle na ellir caffael data amdanynt o ffynonellau eraill ar y we eu targedu.